Grŵp Rheoli’r Geoparc

Ni yw’r grŵp rheoli ar gyfer yr ardal a ddynodwyd yn Geoparc byd-eang ac sy’n cwmpasu hanner gorllewinol y Parc Cenedlaethol. Mae’r grŵp yn dod â sefydliadau’r sector cyhoeddus, preifat, addysgol ac elusennol ynghyd, i gefnogi twristiaeth gynaliadwy, addysg a geocadwraeth

Rydyn ni’n rhan o’r mudiad geoparciau byd-eang sy’n gweithredu “o’r gwaelod i fyny”. Dechreuodd y mudiad yn y 2000au cynnar a bellach, mae tua 180 ohonynt ledled y byd, gyda dim ond 9 yn y DU.

Cawsom ein derbyn i Rwydwaith Geoparciau Ewrop yn 2005, a daeth yn brosiect UNESCO yn 2016. Er mai APCBB yw’r partner arweiniol, rydym yn cydweithio â CNC, y byd academaidd, cyrff masnach a gweithgareddau awyr agored, cyrff bywyd gwyllt a threftadaeth, a’r rheiny sy’n cynrychioli haenau amrywiol o lywodraeth leol, am eu harbenigedd, eu persbectif a’u cyllid

Ein prif nod yw gwarchod hyrwyddo dealltwriaeth ddyfnach o’r dreftadaeth naturiol diwylliannol yn hanner gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac annog datblygiad economaidd priodol yn seiliedig ar egwyddorion cynaliadwyedd cadarn.

Ein gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw cymunedau bywiog sy’n bodoli mewn cytgord ag ecosystemau iach, ac sy’n croesawu ymwelwyr pan ddônt â manteision yn hytrach na phroblemau pellach. At hynny, bydd trigolion ac ymwelwyr yn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r gydberthynas a welir rhwng geoamrywiaeth, bioamrywiaeth ac economi leol gynaliadwy.

Camau Gweithredu’r Dyfodol

Byddwn yn datblygu ymhellach yr “hwb” Geoparc ym Mharc Gwledig Craig y Nos ac yn adnewyddu ein gweithgareddau “allgymorth” ar draws y Geoparc. Rydyn ni hefyd am ehangu ar hyd ymyl y maes glo i helpu’r cymunedau hyn integreiddio’n well i’r Geoparc gyda’r nod o wella deilliannau iechyd ac economaidd.

Y Bannau

Croesewir y Cynllun hwn, a’r broses o’i ddatblygu, fel fframwaith y gall y Geoparc ei ddefnyddio i gynllunio’i weithgareddau, yn y gobaith y gwnaiff wahaniaeth cadarnhaol i’r dirwedd hon, ei chymunedau a’i busnesau, yn ogystal â’r rhai sy’n ymweld â hi.