Grŵp Rheoli’r Geoparc
Rydyn ni’n rhan o’r mudiad geoparciau byd-eang sy’n gweithredu “o’r gwaelod i fyny”. Dechreuodd y mudiad yn y 2000au cynnar a bellach, mae tua 180 ohonynt ledled y byd, gyda dim ond 9 yn y DU.
Cawsom ein derbyn i Rwydwaith Geoparciau Ewrop yn 2005, a daeth yn brosiect UNESCO yn 2016. Er mai APCBB yw’r partner arweiniol, rydym yn cydweithio â CNC, y byd academaidd, cyrff masnach a gweithgareddau awyr agored, cyrff bywyd gwyllt a threftadaeth, a’r rheiny sy’n cynrychioli haenau amrywiol o lywodraeth leol, am eu harbenigedd, eu persbectif a’u cyllid
Ein gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw cymunedau bywiog sy’n bodoli mewn cytgord ag ecosystemau iach, ac sy’n croesawu ymwelwyr pan ddônt â manteision yn hytrach na phroblemau pellach. At hynny, bydd trigolion ac ymwelwyr yn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r gydberthynas a welir rhwng geoamrywiaeth, bioamrywiaeth ac economi leol gynaliadwy.
Camau Gweithredu’r Dyfodol
Byddwn yn datblygu ymhellach yr “hwb” Geoparc ym Mharc Gwledig Craig y Nos ac yn adnewyddu ein gweithgareddau “allgymorth” ar draws y Geoparc. Rydyn ni hefyd am ehangu ar hyd ymyl y maes glo i helpu’r cymunedau hyn integreiddio’n well i’r Geoparc gyda’r nod o wella deilliannau iechyd ac economaidd.
Y Bannau
Croesewir y Cynllun hwn, a’r broses o’i ddatblygu, fel fframwaith y gall y Geoparc ei ddefnyddio i gynllunio’i weithgareddau, yn y gobaith y gwnaiff wahaniaeth cadarnhaol i’r dirwedd hon, ei chymunedau a’i busnesau, yn ogystal â’r rhai sy’n ymweld â hi.