Mae’n bleser gennyf gyflwyno Bannau sef Cynllun Rheoli nesaf ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r gwaith o’i ddatblygu wedi cymryd cryn amser, gobeithio gwelwch ar ei dudalennau waith caled ac ymroddiad pob un sydd wedi dod ynghyd lunio ein cynllun ar gyfer dyfodol. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar bob unigolyn sefydliad sydd wedi helpu lunio’r weledigaeth hon ac sydd wedi ymuno â’n hadduned wneud iddi weithio.

Mae cyd-destun y cynllun hwn yn eithriadol o heriol. Mae’r angen i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth eisoes yn fater brys..

Mae’r cyd-destun economaidd byd-eang yn golygu bod angen i Barciau Cenedlaethol weithio’n galetach fyth i ddod o hyd i atebion teg ac i wneud yn siŵr bod y lleoedd arbennig hyn yn hygyrch i bawb ac yn fannau sy’n cynnig lloches, cyfleusterau cymunedol, ac adferiad. Fel sefydliad arweiniol y Parc Cenedlaethol, mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r goblygiadau dirfodol a ddaw yn sgil y posibilrwydd o oddiweddyd y trothwy cynhesu o 1.5 gradd, a dychmygu dyfodol newydd ochr yn ochr â chynllunio ar gyfer y goblygiadau ymarferol i’n ffordd o fyw.

Mae’r dirwedd hon yn fyw, yn arbennig ac yn unigryw, a thrwy stiwardio’r 520 milltir sgwâr sy’n ffurfio’r Parc Cenedlaethol, gallwn, fel darn bach ond pwysig o’r jig-so, weithredu fel esiampl a fydd yn ysbrydoli ac yn galluogi eraill yn y dasg o ddiogelu ein cartref – sef y Ddaear. Bydd y Cynllun hwn yn ein harwain ni i gyd am y pum mlynedd nesaf o leiaf. Mae’n hollbwysig felly bod ei amcanion yn ein llywio’n ôl i fodolaeth sydd mewn cydbwysedd ag adnoddau prin y Ddaear. Dyna pam bod y Cynllun yn ddigywilydd o uchelgeisiol. Mae ein hymateb yn cael ei reoli gan dystiolaeth sy’n bloeddio fod y system yn dymchwel ac mae’r floedd yn rhy fyddarol i’w hanwybyddu.

Mae fy mhrofiad ers dod i’r Parc Cenedlaethol yn 2021 wedi tanlinellu fy mhenderfyniad i wireddu fy ngweledigaeth ar gyfer Parc sy’n enghraifft fywiog o gynaliadwyedd. Parc sy’n wydn o ran yr amgylchedd, yn economaidd lewyrchus, yn croesawu newid, yn agored ac yn groesawgar i bawb sy’n ceisio cysylltu â natur, harddwch ac antur. Gwn nad fi yw’r unig un sy’n meddu ar y weledigaeth hon. Rwy’i wedi cwrdd, siarad ac ymweld â llawer o unigolion a sefydliadau ysbrydoledig, ac mae nifer ohonynt yn rhan o’r cynllun hwn fel ein Sêr y Bannau. Ar yr adeg hon yn ein hanes, mae ein partneriaid wedi amlygu i mi, trwy eu gweithredoedd, y brys a’r angen am y Cynllun hwn, fel ein bod yn gyrru’r neges bod angen cynnwys cynaliadwyedd ym mhopeth a wnawn, ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Rwyf hefyd yn benderfynol bod y cynllun hwn yn helpu unigolion a sefydliadau i gysylltu â difrifwch y problemau yr ydym yn eu hwynebu.

Buon ni’n ffodus iawn i weithio gydag artistiaid lleol talentog, sydd wedi gallu dod â’r argyfwng yn fyw drwy gelf a stori, gan ddychmygu’r hyn sy’n ein disgwyl yn y dyfodol os na fyddwn yn cyflawni’r cynllun hwn. Rwy’n hynod ddiolchgar am hynny a hoffwn ddiolch yn arbennig i bawb a roddodd o’u hamser i ysgrifennu cardiau post atom o’r dyfodol yr oeddent ei eisiau – maent wedi ein hysbrydoli ni â’u gweledigaethau llawn gobaith. Wrth inni droi yn awr at y cyfnod cyflawni, gan droi’r geiriau yn weithredoedd, hyderaf y bydd pawb sy’n darllen y tudalennau hyn yn dod o hyd i obaith ynddynt. Ac os ydych yn gorff statudol â dyletswydd i weithredu o dan Ddeddf yr Amgylchedd, yn breswylydd unigol yn y Parc, neu’n ymwelydd, rwy’n gobeithio y byddwch yn ddigon penderfynol i gymryd pa faint bynnag o gamau sydd eu hangen i ddiogelu Bannau Brycheiniog ar gyfer y cenedlaethau’r dyfodol.