Mae Geoparc Byd-eang UNESCO y Fforest Fawr yn barc o fewn y Parc ac mae’n gorchuddio hanner gorllewinol y Parc Cenedlaethol, gan ymestyn o Lanymddyfri yn y Gogledd i Ferthyr Tudful yn y De a Llandeilo yn y gorllewin i Aberhonddu yn y dwyrain. Yma ceir “teisen haenog” o greigiau a grëwyd gan gracio a chrychu am 470 miliwn o flynyddoedd.

Dynodwyd Fforest Fawr yn Geoparc Byd-eang UNESCO yn 2015, ac mae’n un o dros 150 o geoparciau ledled y byd sy’n cael eu cydnabod gan UNESCO am eu daeareg nodedig. Mae’r Geoparc yn dathlu hanes yr ardal a’r modd y mae daeareg yn dylanwadu ar hanes, archeoleg, bywyd naturiol a dynol yr ardal.

Mae statws Geoparc Byd-eang UNESCO yn darparu llwyfan proffil-uchel ar gyfer ehangu dealltwriaeth a dyfnhau cysylltiadau’r bobl â thirweddau a hanes carbon. Mae hefyd yn darparu cyfleoedd i wella iechyd a llesiant ochr yn ochr â buddion economaidd-gymdeithasol.

Mae’n egluro’r ffordd y mae geoamrywiaeth yn sail i fioamrywiaeth, a’r modd y deilliodd gwahanol briddoedd a chynefinoedd o’r amrywiaethau hynny. Mae hefyd yn sail i’r modd y cafodd cyfoeth mwynol ei ecsbloetio gan bobl, a’r cymunedau a’r diwylliant a ddeilliodd o’u gweithgareddau.

Mae’r Geoparc yn cynnig cyfle unigryw i edrych yn ôl mewn amser a’n helpu ni i ddeall y modd y cafodd materion yr ydym yn mynd i’r afael â hwy heddiw eu llunio, ac mae’n cynnig cipolwg ar ddyfodol ein perthynas â’r tir. Mae’n egluro’r modd y daeth lleoedd i fod yn eu safleoedd presennol, yn ogystal â’u hunaniaeth a’u hymdeimlad unigryw o berthyn i dreftadaeth adeiledig a naturiol.

Mae’n darparu llwyfan lle gall partneriaid a chymunedau ymgysylltu â hanes naturiol a diwylliannol sy’n gyffredin iddynt. Mae hefyd yn cynnig mecanwaith ar gyfer adfywio cyrion deheuol y Parc trwy ddatblygu twristiaeth.

Mae’r Geoparc yn dathlu ei etifeddiaeth ddiwydiannol, yn gwneud cysylltiadau ar draws tirweddau y tu hwnt i ffiniau’r Parc, ac yn defnyddio ei statws rhyngwladol i greu buddion cymdeithasol, economaidd ac ecolegol.
Mae’n galluogi inni ddathlu etifeddiaeth ddiwydiannol yr ardal ac i wneud cysylltiadau ar draws y dirwedd a thu hwnt i ffiniau’r Parc. At hynny, gall defnyddio statws rhyngwladol y Geoparc ddod â buddion cymdeithasol, economaidd ac ecolegol hefyd.