Awyr Dywyll

Cynnal a gwella'r awyr dywyll ym Mannau Brycheiniog

Bwrdd Awyr Dywyll Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Cyflawnwyd statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol (IDSR) ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn 2013..

Ffurfiwyd Partneriaeth Bwrdd Awyr Dywyll yn syth wedyn i weithio ar gynnal y statws. Ers ei ffurfio, pwrpas y Bwrdd fu cynnal ei statws IDSR. Mae’r Bwrdd wedi esblygu yn y cyfamser ac wedi cytuno mai ei brif amcan yn awr yw cynnal a gwella’r amgylchedd naturiol yn y nos. Mae enw’r Bwrdd (Bwrdd Awyr Dywyll Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog), a’i aelodaeth bellach yn adlewyrchu’r ffocws hwn hefyd

Pwy Ydyn Ni?

Mae ein haelodau’n cynnwys cynrychiolwyr o Gymdeithas Seryddol Brynbuga, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog a Chyngor Sir Fynwy.

Ein Pwrpas Craidd

Nod y Bwrdd Awyr Dywyll yw amddiffyn a gwella’r awyr dywyll ac amgylchedd y nos.

Ein hardal ffocws yw Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; fodd bynnag, rydyn ni hefyd yn ceisio diogelu a chynnal Byffer Allanol o amgylch y ffin hon i atal golau rhag gorlifo i’r ardal warchodedig.

Ein nod yw gwneud hynny trwy weithredu ac eiriol mewn modd cyfannol fel gellir amlygu pwysigrwydd yr awyr dywyll fywyd gwyllt, natur, iechyd dynol, yr hinsawdd, yr economi ac addysg
Bwrdd Awyr Dywyll Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Ein Gweledigaeth

Creu awyr o dywyllwch naturiol yn y nos ar draws Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; drwy hynny, fe ddaw llu o fuddion yn ei sgil tra byddwn yn diogelu’r amgylchedd ac yn rhannu’r ymdeimlad o ymgysylltiad cyntefig ac o ryfeddod.

Mae llwyddiant y Bwrdd yn cael ei fesur yn nhermau cadw statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol ar gyfer y Parc Cenedlaethol. Eisoes, mae’r cyflawniad hirsefydlog hwn wedi cefnogi a hyrwyddo Bannau Brycheiniog am ansawdd ei amgylchedd nosol

Heriau’r Dyfodol

Mae gwaith y Bwrdd yn gwbl wirfoddol a chaiff ei gyflawni trwy gyd-drafod a chytundeb. Nid oes gan y Bwrdd na sefydliad Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog bŵer statudol i fynnu gwelliannau i oleuadau, ac ni all reoli datblygiad o amgylch ei ffiniau ychwaith. Gan hynny, tasg y Bwrdd yw hyrwyddo’r manteision a ddaw yn sgil gwella a chadw awyr dywyll.

Camau Gweithredu’r Dyfodol

Ochr yn ochr â’n hamserlen bresennol o waith allgymorth ac addysgiadol rydyn ni, gyda Swyddogion y Parc Cenedlaethol, yn gweithio tuag at ddau ddyhead hirdymor:

  • Awyr y nos ac amgylchedd nosol o ansawdd uchel wedi’u hen ymsefydlu ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac yn cael eu gwerthfawrogi’n lleol ac yn genedlaethol am y buddion a ddaw yn eu sgil.
  • Mae gwerth a phwysigrwydd tywyllwch yn gyffredin yng Nghymru erbyn hyn gyda mesurau rheoli goleuadau eang yn eu lle ac yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru

Y Bannau

Rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd y Cynllun Rheoli i’n gwaith, ac wedi bod yn ymwneud â’r datblygiad ers llunio’r Weledigaeth a’r Amcanion, pan gyflwynwyd Tywyllwch gyntaf fel un o nodweddion arbennig y Parc. Edrychwn ymlaen at weithio gyda swyddogion y Parc yn y dyfodol ar brosiectau sy’n rhannu nodau mewn perthynas â’r amgylchedd nosol