Cenhadaeth
Datgarboneiddio
Atafaelu
Addasu
Hinsawdd
Mae sylfaen gwareiddiad yn ddibynnol ar hinsawdd sefydlog ac amrywiaeth gyfoethog o fywyd.
Mae’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd wedi datgan yn glir ein bod yn prysur symud oddi wrth hinsawdd sy’n ddiogel i’r ddynolryw ar y Ddaear, ac mai dyma’r degawd olaf y bydd modd inni weithredu i gadw ein planed yn drigiadwy.
Eisoes yn y Parc Cenedlaethol, rydym yn profi effeithiau hinsawdd ansefydlog – o wres eithafol, sychder a phrinder dŵr, i lawiad eithafol a llifogydd. Mae hyn yn effeithio ar lesiant a bywoliaeth pobl – o ffermio i wasanaethau cyhoeddus a busnesau – ac mae hefyd yn effeithio ar natur. Hyd yn oed os cymerwn y camau mwyaf posibl i leihau allyriadau nawr, mae’n anochel y bydd newid hinsawdd yn gwaethygu. Mae angen inni gymryd camau i addasu ar gyfer effeithiau na ellir mo’u hosgoi.
Er bod hwn yn argyfwng byd-eang, rydym yn gwybod y bydd yr hyn a wnawn yma yn gwneud gwahaniaeth. Mae gweithgareddau o fewn y Parc Cenedlaethol yn cyfrannu’n anghymesur at helyntion yr hinsawdd. Mae’r DU ymhlith yr 20 uchaf yn y byd o ran allyrru carbon fesul person, ac mae ôl troed carbon trigolion Bannau Brycheiniog 20% yn uwch na thrigolion cyfartalog y DU.
Mae llawer o newidiadau y gallwn eu gwneud gyda’n gilydd i leihau ein heffaith ar yr hinsawdd ac wrth wneud hynny, gallwn gynnal ansawdd bywyd uchel ac adfer yr amgylchedd naturiol yr ydym i gyd yn dibynnu arno. Rhaid gweithredu er ein mwyn ni yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae rhai effeithiau newid hinsawdd yn anochel ac mae angen inni gynllunio i gefnogi pobl a byd natur wrth iddynt geisio addasu.
Mae gan y Parc Cenedlaethol botensial a chyfrifoldeb enfawr i fod yn ddalfa garbon ac mae angen i ni helpu byd natur i adfer er mwyn cyflawni’r rôl hanfodol hon. Rhaid i hyn ddigwydd mewn ffordd sy’n cadw’r tir amaethyddol mwyaf cynhyrchiol ar gyfer tyfu bwyd ac sy’n deg i ffermwyr, a rhaid iddo ddigwydd mewn ffordd sy’n gwella ein diwylliant cyfoethog a’n heconomi leol ac yn gwarchod yr amgylchedd hanesyddol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ddod yn “esiampl” wrth ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd.
Gofynnwyd i ni ymgysylltu â chymunedau o fewn y Parc Cenedlaethol, a chydag ymwelwyr, i ddatblygu atebion ar gyfer lleihau allyriadau a darparu buddion i’r bobl a’r amgylchedd.
Ein man cychwyn fu comisiynu dadansoddiad arbenigol o ôl troed carbon y Parc Cenedlaethol – yr allyriadau rydym i gyd yn eu cynhyrchu trwy losgi tanwyddau ffosil a’u defnyddio drwy’r cynnyrch a brynwn yma. At hynny, fe gawsom gyngor arbenigol ar y gostyngiadau y dylid eu gwireddu gan bawb sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’r Parc Cenedlaethol, yn unol â Chytundeb Hinsawdd Paris.
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â chynghorau a chyrff cyhoeddus eraill, busnesau, ffermwyr, sefydliadau gwirfoddol, grwpiau dinasyddion, cymunedau ac unigolion i lunio a gwireddu’r camau gweithredu sydd eu hangen.