MAE PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG hefyd yn falch o fod yn gartref i amrywiaeth o ddynodiadau eraill o bwys cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r dynodiadau hyn yn cydnabod arwyddocâd y Parc mewn meysydd penodol, gan gynnig amddiffyniad pellach i ni a chyfleoedd i adrodd stori’r Parc.
Safle Treftadaeth Byd Blaenafon
Cofrestrwyd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn Safle Treftadaeth y Byd gan Sefydliad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) ym mis Tachwedd 2000. Fel y nodwyd yn y dynodiad
Heddiw mae’r STB yn rhoi cyfle i gysylltu ein cymunedau a’n hymwelwyr ag etifeddiaeth ein hanes ar raddfa fyd-eang. Mae’n adnodd addysgol arwyddocaol sy’n darparu cysylltiadau rhwng yr ardal, yr Anthroposen, a’r symudiad tuag at ddyfodol y tu hwnt i garbon.