Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon
Phil Stocker -Cadeirydd Partneriaeth Defnydd Tir Y Mynyddoedd Duon
Sefydlwyd y bartneriaeth hon drwy Gronfa Natur Llywodraeth Cymru yn 2015. Mae’r bartneriaeth yn hyrwyddo adferiad a rheolaeth gynaliadwy o adnoddau a chynefinoedd naturiol y Mynyddoedd Duon ac mae’n fforwm ar gyfer trafod a chydweithio ar reolaeth, cynaliadwyedd a chadwraeth y Mynyddoedd Du yn awr ac yn y dyfodol.
Nod y bartneriaeth yw gwella ansawdd cynefinoedd amaethyddol ac amgylcheddol, hyrwyddo ethos cynaliadwy a chyfrifol ar gyfer ymwelwyr, gwarchod a chadw ei chyfalaf naturiol megis Dŵr, Pridd, Bywyd Gwyllt a Bioamrywiaeth, a gwella llesiant a chadernid economaidd y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal eiconig hon.
Mae Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon (y BMLUP) yn cynnwys porwyr sy’n byw ac yn gweithio ar y Mynyddoedd Duon ac yn rheoli da byw yno. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â thirfeddianwyr mawr yr ardal, megis Ystâd Glanwysg, Ystâd Tregoyd ac Ystâd Bal Mawr/Bal Bach i enwi ond ychydig. Mae cyrff rheoleiddio gan gynnwys APCBB, Dŵr Cymru, CNC a Chlwb Ffermwyr Ifanc hefyd yn bresennol, ynghyd â chynrychiolaeth o’n cymuned leol.
Mae’r Bartneriaeth a’i hardal yn canolbwyntio’n bennaf ar yr ucheldiroedd i’r gogledd a’r dwyrain o Grucywel, hyd at a chan gynnwys y Gelli Gandryll, ac i’r gorllewin o Craswall a Longtown. Mae’r ardal yn gorchuddio 24,600ha, gyda thua thraean ohoni’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig dynodedig.
Ein hamcanion yw:
- Gwella ansawdd cynefinoedd gan gynnwys adfywio grug.
- Cynyddu arwynebedd ac ansawdd y tir pori.
- Rheoli erydiad ar safleoedd strategol.
- Sefydlogi adnoddau mawn.
- Darparu ffynhonnell o ddeunyddiau i’w defnyddio ar gyfer gwaith adfer mewn ardaloedd mawn/pridd mwynol sydd wedi erydu er mwyn gwella cyflwr y corsydd.
- Gwella mynediad mewn lleoliadau strategol yn enwedig o amgylch mannau troi-allan i’w gwneud yn haws i ryddhau stoc ar y bryn a gwella profiad yr ymwelwyr.
- Darparu’r modd ar gyfer ymaddasu i newid hinsawdd a lliniaru’i effeithiau er mwyn gwella cysylltedd yr ecosystemau, y fioamrywiaeth a’r bywyd gwyllt.
- Hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o bori traddodiadol a chyfoes, gwaith cadwraeth, ac arferion rheoli ucheldir eraill a ddefnyddir ar y bryn ynghyd â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt.
- Hyrwyddo a chefnogi llesiant a chadernid economaidd y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal ac annog ymweliadau diogel a chynaliadwy â hi.
- Gwarchod a meithrin treftadaeth ddiwylliannol yr ardal.
- Casglu, cofnodi, coladu a rhannu data a thystiolaeth sy’n ymwneud â rheolaeth gynaliadwy y Mynyddoedd Duon.
Rôl y Bartneriaeth yw:
- Codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy y Mynyddoedd Duon.
- Meithrin cyfathrebu da rhwng grwpiau buddiant er mwyn cydlynu’r dasg o wireddu pwrpas y Bartneriaeth.
- Cydweithio ar gynigion ariannu ac, os yw’n briodol, eu llunio ar gyfer blaenoriaethau a bennir gan y Bartneriaeth.
- Ceisio cyllid ar gyfer prosiectau sy’n hyrwyddo amcanion y Bartneriaeth.
- Arwain y gwaith o weithredu cynlluniau a ariennir i hyrwyddo amcanion y Bartneriaeth.
- Monitro effeithiolrwydd y cyfryw gynlluniau a gwerthuso’u heffaith.
Mae’r Bartneriaeth yn canolbwyntio’n fawr ar ddulliau gweithredu ac arloesi. Rydyn ni wedi cael llwyddiant sylweddol ers ein sefydlu. Rydyn ni wedi: rhoi gwelliannau rheoli tir ar waith (ail-wlychu ac aildyfu 60ha o fawndir, adfer 1500 metr o lwybrau troed a llwybrau ceffylau, a rheoli rhedyn dros ardal o 400ha); datblygu sgiliau (buddsoddi dros £45,000 mewn hyfforddiant sgiliau gwledig, ymgysylltu â thros 500 o blant ysgol); a hyrwyddo ymweliadau cynaliadwy diogel â’r ardal (creu ystod o gynlluniau llysgenhadon, cyhoeddi arweinlyfr ac adnoddau ar-lein). Fodd bynnag, mae llawer i’w wneud o hyd: mae rhaglen Y Bannau yn darparu fframwaith trosfwaol sy’n cyd-fynd yn dda â’n blaenoriaethau i symud ymlaen ymhellach yn y dyfodol.