Goresgynwyr y Parc Cenedlaethol
Bev Lewis
Cydgysylltydd Rhywogaethau Estron Goresgynnol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Rydyn ni’n gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau, tirfeddianwyr, grwpiau cymunedol a’r cyhoedd i fynd i’r afael â phroblemau a gwyd pan fo rhywogaethau anfrodorol yn ymledu o fewn y Parc Cenedlaethol.
Gall rhywogaethau estron fod yn niweidiol iawn i’n bywyd gwyllt a’n cynefinoedd brodorol wrth ymledu; trwy gydweithio i gael gwared ar y goresgynwyr hyn, gallwn helpu i adfer ecosystemau ar raddfa ehangach.
Rydyn ni’n canolbwyntio ar rywogaethau megis canclwm Japan, ffromlys chwarennog, rhododendron a llawryf ceirios. Rydyn ni wedi gweithio’n bennaf yn nalgylch Afon Wysg gan mai dyna’r lle y mae’r mwyafrif o’r rhywogaethau goresgynnol wedi’u cofnodi, ond rydyn ni hefyd yn gweithio ar rywogaethau eraill o fewn y Parc Cenedlaethol.
Problem Sy’n Tyfu
Rhywogaethau Estron Goresgynnol yw un o’r bygythiadau mwyaf i fioamrywiaeth. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o’r prif achos sef colli a darnio cynefinoedd, maent yn llai ymwybodol o effaith y mae rhywogaethau goresgynnol yn ei chael ar fioamrywiaeth, pobl, yr economi ac iechyd dynol.
Mae yna eisoes nifer fawr o rywogaethau estron ym Mhrydain ac mae’r nifer sy’n ymsefydlu yn debygol o gynyddu oherwydd y twf ym masnach a thwristiaeth fyd-eang. Gall newid hinsawdd hefyd droi rhywogaethau sy’n ecogyfeillgar ym Mhrydain ar hyn o bryd i fod yn rhai goresgynnol.
Sut Beth Fyddai Llwyddiant I’r Prosiect?
Hoffem weld pobl yn fwy ymwybodol o’r bygythiad i fioamrywiaeth gan rywogaethau estron goresgynnol ac o ganlyniad i hynny, yn gwella’u harferion bioddiogelwch i rwystro goresgyniadau newydd.
Byddai hynny’n golygu bod unrhyw rywogaethau goresgynnol newydd yn cael eu sbotio, eu cofnodi a’u rheoli’n gynnar cyn iddynt gael cyfle i ddod yn broblemau hirdymor. Byddai hefyd yn golygu bod rhywogaethau goresgynnol sy’n broblemau ar hyn o bryd yn cael eu rheoli’n weithredol.
Ein Gweithredoedd
“Mae’n well, yn rhatach ac yn fwy effeithlon i rwystro’r broblem na’i gwella” – rydym am i bobl fod yn wirioneddol ymwybodol o rywogaethau goresgynnol, cymryd rhagofalon bioddiogelwch a’n helpu i gofnodi rhywogaethau goresgynnol newydd yn ogystal â’r rhai presennol. Byddwn yn ceisio gweithredu cynllun ar gyfer rhai o’r rhywogaethau goresgynnol sydd eisoes wedi sefydlu’u hunain, fel y gallwn eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy a chydgysylltiedig.
Ni allwn ni wneud y gwaith hwn ar ein pennau ein hunain; mae’n rhaid ei wneud gyda phartneriaid mewn ffordd gydgysylltiedig gydag ysgogiad hirdymor y tu cefn i’r prosiect. Y Bannau sy’n darparu’r fframwaith trosfwaol ac yn ein helpu ni i uno’r holl ddotiau at ei gilydd.