Partneriaeth Yr Amgylchedd Hanesyddol
Alice Thorne
Swyddog Treftadaeth APCBB- Swyddog Cydgysylltu
Mae ein partneriaeth yn un o’r partneriaethau newydd a sefydlwyd i gyflawni rhaglen Y Bannau. Yn sgil hynny, rydyn ni wedi cyd-lunio Cynllun Gweithredu (HEAP) ar gyfer gwella’r modd y cyd-reolir y Parc o ran ei amgylchedd hanesyddol.
Mae cynrychiolwyr o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cadw, Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys, Stori Aberhonddu, Cymdeithas Brycheiniog a Chyfeillion yr Amgueddfa, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog a’r Clwb Archeolegwyr Ifanc, wedi cyfrannu at ddatblygiad y Cynllun Gweithredu, gydag ymgynghoriad a mewnbwn gan rwydwaith ehangach o unigolion, grwpiau ac asiantaethau sy’n gweithio yn y sector. Nid yw’r cynllun yn honni ei fod yn cwmpasu pob gweithgaredd – ond mae’n anelu at ddarparu sylfaen a fframwaith i nodi amcanion a rennir, gwella’r cydgysylltiad, a chanolbwyntio ar adnoddau. Bydd y Cynllun Gweithredu’n darparu mecanwaith ar gyfer blaenoriaethu, darparu a monitro’r gadwraeth ac yn dathlu ein treftadaeth. Bydd hon yn ddogfen waith, i’w diweddaru’n rheolaidd yn y blynyddoedd i ddod.
Ein gweledigaeth
Fodd bynnag, bydd diffyg adnoddau a chapasiti presennol y sector yn cael eu dwysáu gan yr heriau a fydd yn ein hwynebu ni i gyd yn y blynyddoedd i ddod. Mae gweithio mewn partneriaeth, a rhannu cynlluniau gweithredu yn un ffordd y gallwn oresgyn rhai o’r heriau sy’n effeithio ar adnoddau heb lastwreiddio’r gallu i amddiffyn yr amgylchedd hanesyddol.
Trwy ein partneriaeth a’r cynllun gweithredu a luniwyd gennym ar y cyd, byddwn yn anelu at
- ddiffinio cyfres o amcanion a rennir a sicrhau ymrwymiad i gyflawni
- hyrwyddo rheolaeth o gadwraeth yr amgylchedd hanesyddol
- ymgysylltu â chymunedau ac ymwelwyr i feithrin dealltwriaeth o amgylchedd hanesyddol a threftadaeth ddiwylliannol y Parc
- gwella cydweithrediad, adnoddau a chapasiti er mwyn cefnogi prosiectau i wella, rheoli, ymchwilio, monitro a dathlu harddwch ac amrywiaeth ein treftadaeth a’n hamgylchedd hanesyddol.
Camau Gweithredu’r Dyfodol
Mae ein Cynllun wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth, i ddiogelu ein Hamgylchedd Hanesyddol a hyrwyddo cydlyniant a chydnawsedd y gwahanol grwpiau a sefydliadau sy’n gweithio yn y Parc Cenedlaethol. Bydd yn cyd-fynd â chynlluniau partneriaeth eraill, megis y Cynllun Gweithredu Adfer Natur (NRAP) fel tystiolaeth gefndirol ar gyfer Y Bannau sef Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol, a bydd yn helpu Awdurdod y Parc Cenedlaethol i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Fe’i paratowyd i’n helpu ni i ofalu am yr amgylchedd hanesyddol o’n cwmpas