Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon

Partneriaeth arloesol, drawsffiniol, ar raddfa dirweddol sy’n darparu gwelliant a rheolaeth barhaus ar gyfer ardaloedd ucheldirol y Mynyddoedd Duon

Phil Stocker -Cadeirydd Partneriaeth Defnydd Tir Y Mynyddoedd Duon

Sefydlwyd y bartneriaeth hon drwy Gronfa Natur Llywodraeth Cymru yn 2015. Mae’r bartneriaeth yn hyrwyddo adferiad a rheolaeth gynaliadwy o adnoddau a chynefinoedd naturiol y Mynyddoedd Duon ac mae’n fforwm ar gyfer trafod a chydweithio ar reolaeth, cynaliadwyedd a chadwraeth y Mynyddoedd Du yn awr ac yn y dyfodol.

Nod y bartneriaeth yw gwella ansawdd cynefinoedd amaethyddol ac amgylcheddol, hyrwyddo ethos cynaliadwy a chyfrifol ar gyfer ymwelwyr, gwarchod a chadw ei chyfalaf naturiol megis Dŵr, Pridd, Bywyd Gwyllt a Bioamrywiaeth, a gwella llesiant a chadernid economaidd y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal eiconig hon.

Mae Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon (y BMLUP) yn cynnwys porwyr sy’n byw ac yn gweithio ar y Mynyddoedd Duon ac yn rheoli da byw yno. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â thirfeddianwyr mawr yr ardal, megis Ystâd Glanwysg, Ystâd Tregoyd ac Ystâd Bal Mawr/Bal Bach i enwi ond ychydig. Mae cyrff rheoleiddio gan gynnwys APCBB, Dŵr Cymru, CNC a Chlwb Ffermwyr Ifanc hefyd yn bresennol, ynghyd â chynrychiolaeth o’n cymuned leol.

Mae’r Bartneriaeth a’i hardal yn canolbwyntio’n bennaf ar yr ucheldiroedd i’r gogledd a’r dwyrain o Grucywel, hyd at a chan gynnwys y Gelli Gandryll, ac i’r gorllewin o Craswall a Longtown. Mae’r ardal yn gorchuddio 24,600ha, gyda thua thraean ohoni’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig dynodedig.

Rydyn ni’n hyrwyddo’r gwaith o adfer a rheoli adnoddau naturiol ein tir mewn modd cynaliadwy, gan weithio i sicrhau bod y rhain yn dod â manteision lu i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yma. Ein nod yw sicrhau newid cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cadarnhaol trwy weithredu arferion rheoli tir cydweithredol a chynaliadwy yn y Mynyddoedd Duon
Phil Stocker
Cadeirydd Partneriaeth Defnydd Tir Y Mynyddoedd Duon

Ein hamcanion yw:

 

  • Gwella ansawdd cynefinoedd gan gynnwys adfywio grug.
  • Cynyddu arwynebedd ac ansawdd y tir pori.
  • Rheoli erydiad ar safleoedd strategol.
  • Sefydlogi adnoddau mawn.
  • Darparu ffynhonnell o ddeunyddiau i’w defnyddio ar gyfer gwaith adfer mewn ardaloedd mawn/pridd mwynol sydd wedi erydu er mwyn gwella cyflwr y corsydd.
  • Gwella mynediad mewn lleoliadau strategol yn enwedig o amgylch mannau troi-allan i’w gwneud yn haws i ryddhau stoc ar y bryn a gwella profiad yr ymwelwyr.
  • Darparu’r modd ar gyfer ymaddasu i newid hinsawdd a lliniaru’i effeithiau er mwyn gwella cysylltedd yr ecosystemau, y fioamrywiaeth a’r bywyd gwyllt.
  • Hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o bori traddodiadol a chyfoes, gwaith cadwraeth, ac arferion rheoli ucheldir eraill a ddefnyddir ar y bryn ynghyd â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt.
  • Hyrwyddo a chefnogi llesiant a chadernid economaidd y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal ac annog ymweliadau diogel a chynaliadwy â hi.
  • Gwarchod a meithrin treftadaeth ddiwylliannol yr ardal.
  • Casglu, cofnodi, coladu a rhannu data a thystiolaeth sy’n ymwneud â rheolaeth gynaliadwy y Mynyddoedd Duon.

Rôl y Bartneriaeth yw:

  • Codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy y Mynyddoedd Duon.
  • Meithrin cyfathrebu da rhwng grwpiau buddiant er mwyn cydlynu’r dasg o wireddu pwrpas y Bartneriaeth.
  • Cydweithio ar gynigion ariannu ac, os yw’n briodol, eu llunio ar gyfer blaenoriaethau a bennir gan y Bartneriaeth.
  • Ceisio cyllid ar gyfer prosiectau sy’n hyrwyddo amcanion y Bartneriaeth.
  • Arwain y gwaith o weithredu cynlluniau a ariennir i hyrwyddo amcanion y Bartneriaeth.
  • Monitro effeithiolrwydd y cyfryw gynlluniau a gwerthuso’u heffaith.

Mae’r Bartneriaeth yn canolbwyntio’n fawr ar ddulliau gweithredu ac arloesi. Rydyn ni wedi cael llwyddiant sylweddol ers ein sefydlu. Rydyn ni wedi: rhoi gwelliannau rheoli tir ar waith (ail-wlychu ac aildyfu 60ha o fawndir, adfer 1500 metr o lwybrau troed a llwybrau ceffylau, a rheoli rhedyn dros ardal o 400ha); datblygu sgiliau (buddsoddi dros £45,000 mewn hyfforddiant sgiliau gwledig, ymgysylltu â thros 500 o blant ysgol); a hyrwyddo ymweliadau cynaliadwy diogel â’r ardal (creu ystod o gynlluniau llysgenhadon, cyhoeddi arweinlyfr ac adnoddau ar-lein). Fodd bynnag, mae llawer i’w wneud o hyd: mae rhaglen Y Bannau yn darparu fframwaith trosfwaol sy’n cyd-fynd yn dda â’n blaenoriaethau i symud ymlaen ymhellach yn y dyfodol.