Dyfodol Y Bannau — Gweledigaeth o ddyfodol Bannau Brycheiniog.
Mae’n Gynllun sy’n ceisio mynegi’n glir ac yn ddigywilydd yr angen am newid eang a brys os ydym am oroesi fel adnodd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n gynllun sydd â’r nod o ysbrydoli gweithrediadau ac adeiladu clymblaid o’r rhai sy ‘n barod i gyflawni ein huchelgais ar gyfer y lle gwych hwn yr ydym yn ei alw’n gartref, sef Parc y Bannau.
Y gwead hwn o bobl a lleoedd, lle mae natur a chymuned yn ffynnu.
Crynodeb Gweithredol
Bannau’r Dyfodol yw’r Cynllun Rheoli ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae ei gyhoeddiad yn cyflawni rhwymedigaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i baratoi a pharhau i adolygu Cynllun Rheoli ar gyfer yr ardal.
Fodd bynnag, nod y cynllun hwn yw bod yn llawer mwy na bodloni gofyniad statudol yn unig. Mae’n Gynllun sy’n ceisio mynegi’n glir a heb gywilydd yr angen am newid eang a brys os ydym am oroesi fel adnodd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n gynllun sydd â’r nod o ysbrydoli gweithredu ac adeiladu clymblaid o’r parodrwydd i gwrdd â’r uchelgais a godwn ar gyfer y lle gwych hwn yr ydym yn ei alw’n Y Bannau, ein cartref.