fy merch Megan,
 
Mae’n torri fy nghalon pan fyddwn ni’n ffraeo; ni alla odde’r poen am ryw lawer. Dywedodd ddwy ohonom bethau go egr ar ôl yr angladd yr wythnos diwethaf.

Roedd dy dad-cu wastad yno i ni gyd ac fe oedd y ddolen olaf ag amser symlach. Mae ei golled wedi ansetlo pethau a chodi nifer o gwestiynau, yn enwedig o amgylch y tir – beth i’w wneud ag e, pwy fydd yn cymryd yr awenau, ac fel wedest ti, “ar gyfer pwy mae e?”

Mae’r geiriau hyn yn cynnig ymddiheuriad ac esboniad nad oedd ar gael i mi yng ngwres y funud.

Ydw i wedi bod yn “llwfr”, yn “hunanol”, ac yn “rhan o’r broblem”? F’annwyl ferch, mae’r geiriau hynny fel dartiau gwenwynig, ac yn achosi cryn loes calon wrth imi geisio dod o hyd i atebion.
Y rheswm i mi fynd mor grac â’th awgrym i orchuddio’r borfa bell gyda llochesi dros dro (neu hyd yn oed ei drosglwyddo’n gyfan gwbl), yw fy mod mor ymwybodol o’r ymdrechion y tu ôl i’r man lle rydyn ni nawr. Mae’r tir a’r holl flynyddoedd caled hynny wedi crafu fy nghroen a gadael eu marc arna i.
Gad i mi geisio egluro.

Dechreuodd dy dad a minnau weithio ar y fferm yn ôl yn 2020. Bryd hynny, roedden ni’n cael rhai hafau poeth a sych a gaeafau gwlyb, ond roedd popeth yn dal i deimlo’n “normal”. Roedd bywyd yn mynd yn ei flaen ac roedd y dyffryn mor brydferth ag erioed, yn llawn bywyd ac yn gynhyrchiol iawn. Roedd yn anodd dychmygu bod unrhyw argyfwng ar y gorwel. Roeddwn i’n araf iawn yn deall bod newid sylfaenol eisoes ar waith ac nad oedd gennym unrhyw ddewis ond addasu iddo fe. Dyna oedd fy agwedd i o leiaf.

Ti a Dylan oedd ein blaenoriaeth bob amser. Tra oeddech chi’ch dau yn chwarae o gwmpas fy sgert ac yn ansicr o’r cartref newydd, fe geisiodd dy dad a minnau’n galed i fynd i’r afael â’r fferm, o’r gweithgareddau dydd-i-ddydd i’r pethau sylfaenol a oedd yn mynd yn fwyfwy tynn.

Fel o’r blaen, fe wnaethon ni’r hyn yr oedden ni’n ei wybod, gan ganolbwyntio ar ein cornel fach ni, er mwyn cael y fferm i weithio ar ein cyfer ni – a chi. Pan aeth pethau o ddrwg i waeth yng nghanol yr 20au, prin y gallen ni fforddio i gadw’r goleuadau ymlaen, heb sôn am brynu porthiant neu fwyd.

Yn union fel y llywodraeth, fe ddechreuon ni fyw ar lai a chulhau ein ffocws hyd yn oed ymhellach. Roedden ni hyd yn oed yn fwy penderfynol a didostur i wneud yr hyn oedd ei angen i ofalu am ein hunain a’n darn o dir.

Wrth gwrs erbyn hyn, fel pawb arall, rydyn ni’n edrych yn ôl ar ddiwedd yr 20au gyda chywilydd. Ond dim ond hyn a hyn o straen y gall teulu ei dioddef ar unrhyw un adeg. Ein greddf bryd hynny oedd dal ein tir a goroesi ar lai a llai – a thrwy gau ein llygaid ac adeiladu rhwystrau mewn ymdrech i amddiffyn yr hyn oedd yn annwyl i ni, fe fethon ni’n llwyr i fynd i’r afael â gwraidd y broblem.

Mae’r camgymeriadau a wnaed a’r cyfleoedd a gollwyd yn ymddangos yn glir inni heddiw ond wrth fyw drwy’r cyfnod, roedd pethau’n dra gwahanol. Dyma wirionedd a enillwyd trwy fawr ymdrech.

Wrth gwrs, ers i ni droi pethau rownd yn y blynyddoedd dilynol, a sylweddoli ein bod ni bellach yn gweithio mewn cytgord â’n cymdogion a’n tir, rydyn ni wedi dod yn gymuned sy’n edrych allan yn ogystal ag i mewn. Rwyt ti’n ymgorffori hyn i gyd fy annwyl ferch, ac ni allwn i fod yn fwy balch ohonot ti: rwyt ti’n helpu’r rhai llai ffodus i ddod o hyd i noddfa yma, ac yn gyson mi rwyt ti’n gofyn (ac yn gweiddi!) am yr hyn sy’n deg ac yn gyfiawn. Rwy’n gwybod nad yw’n hawdd; mae’n rhaid dy fod ti wedi blino ar ôl yr holl frwydro. Ond bydd yn falch o dy hun ac o amcanion a gweithredoedd ein cymuned – maen nhw’n cynrychioli’r gorau ohonom ac yn ein sbarduno i fwrw ymlaen.

Efallai bod fy nghyfraniadau dros y degawd diwethaf yn ymddangos braidd yn ddof a hen ffasiwn erbyn hyn. Mae fy myd ond yn ymestyn dros y bryn ac i mewn i’r dref, ond mewn rhai ffyrdd mae fy mlaenoriaethau yn union yr un fath ag erioed, sef meithrin a diogelu’r hyn sydd gennym. Ond bellach, nid ydyn ni ar ein pennau ein hunain: mae gennym gymorth ac arweiniad cyson i dyfu a chysylltu, er mwyn bod yn fwy, yn well ac yn fwy cydgysylltiedig. Efallai nad yw ein ffermio atgynhyrchiol a danfoniadau lleol yn ymddangos mor radical i ti, na’m “clecs” wythnosol gyda’r grŵp ynni cymunedol, ond mae’n rhywbeth y gallaf ddod i ben ag e. Y cyfan rwy’n ei wybod yw, o gymharu â’r dyddiau tywyll hynny a’r camau gwag a gymerwyd, mae’n teimlo fel gwyrth!
Lluniwyd ein hysbryd gan heriau ein hieuenctid; fy ymateb i oedd meithrin ac amddiffyn, tra oeddet ti yn estyn allan ac yn cysylltu. Mae angen ac mae lle ar gyfer y ddau. Rwy’n gobeithio y gelli di ddysgu bod yn falch o’r hyn sydd gennym ni yma – ein cartref wedi’i droi yn wyrdd ac yn gydnerth a’n cymuned wedi’i hadnewyddu. Dylet ei weld nid yn unig fel braint a etifeddwyd ond hefyd fel ffrwyth llafur nifer o ddwylo dros nifer o flynyddoedd. Ac mi wnaf innau fy ngorau glas i edrych allan a thu hwnt, i sylweddoli bod ein bendith yn un i’w rhannu.

Felly, a oeddwn i’n “hunanol” ac yn “rhan o’r broblem”? Mae’n debyg yr oeddwn i, ond dim ond i’r un graddau â phawb arall ar y pryd. Oeddwn i’n “llwfr”? Dwi ddim yn meddwl, na. Fe wnes i’r hyn oeddwn i’n meddwl y gallwn i ac y dylwn i wneud, ac efallai yr oedd hynny’n ddewr hyd yn oed. Ond mi roedd fy safbwynt i’n gamgyfeiriol ac yn gyfeiliornus. Ac am hynny, wrth gwrs, byddaf bob amser yn edifar.

Rwy’n gobeithio o leiaf y gelli di fy neall i ychydig yn well yn awr, fy mechan. Felly, beth am i ni siarad eto? Bydda i’n ceisio gwrando’n well a bod yn agored i newid. Wedi’r cyfan, newid yw’r unig beth sy’n gyson yn ein bywydau bellach. Ond rwy’n siŵr y gall y ddwy ohonon ni hwylio drwyddi!

Â’m holl galon,

Dy fam falch a styfnig, Siân Brychan