Gwaith Staff Sefydliadau Bannau Brycheiniog
Er mwyn dangos ein hymrwymiad i’r dull Cenhadol, rydyn ni, fel sefydliad, yn nodi’r hyn y credwn yw ein rôl wrth helpu i gyflawni’r cenadaethau.
Dyma’r cyfraniadau mwyaf y credwn y gallwn eu gwneud i gyflawni’r cenadaethau.
Yn ogystal â’n dull cenhadol, credwn fod gennym fel sefydliad rôl ganolog a ddiffiniwn fel ein cyfraniad trosfwaol i genhadaeth y Bannau. Mae hyn yn diffinio gweithgareddau’r dyfodol sy’n rhychwantu ein holl genadaethau a byddant yn diffinio patrwm cyffredinol ar gyfer gweithgareddau’r sefydliad cyfan
Cyfraniadau cyffredinol gan staff o Y Bannau
Mae’r canlynol yn diffinio ymrwymiad ein sefydliad i ymgymryd â gweithgareddau trosfwaol a fydd yn cyfrannu at wireddu ein cenadaethau.
- Byddwn yn defnyddio ein pwerau i ddod â phobl a sefydliadau allweddol ynghyd i ffurfio partneriaethau sy’n canolbwyntio ar gyflawniad, fel y gallant rannu gwybodaeth ac arbenigedd, a defnyddio adnoddau mewn modd cydgysylltiedig ac effeithlon. Mae’r ddogfen hon yn diffinio partneriaethau sydd eisoes yn bodoli ac yn gweithredu er budd y Parc Cenedlaethol, a byddwn yn parhau i’w cefnogi.
- Byddwn yn ehangu cyrhaeddiad ac ehangder ein partneriaeth yn y maes ymchwil academaidd, gan anelu at ddefnyddio arbenigedd yn y maes hwnnw i fynd i’r afael â phroblemau go iawn y Parc Cenedlaethol. Mae’r bartneriaeth yn y broses o greu grwpiau astudio craidd ar gyfer meysydd pwnc allweddol, megis mawn, ffosffadau a threftadaeth, ac a fydd o gymorth i gyflawni’r cenadaethau. Gall penodau cenhadaeth unigol ganfod meysydd eraill lle mae angen ymchwil pellach i gefnogi cyflawniad.
- Byddwn yn gwreiddio egwyddorion, gwerthoedd a chenhadaeth Y Bannau yn holl waith y sefydliad gan gynnwys ein strwythurau penderfynu a ffyrdd o weithio, ein rheolaeth ariannol, ein cyfathrebiadau cyhoeddus a’n heiriolaeth, a’r modd y byddwn yn datblygu pob cynllun a pholisi pellach y gofynnir i’r Parc Cenedlaethol ei gynhyrchu yn ôl statud neu anghenraid.
- Byddwn yn defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael, yn awr ac yn y dyfodol, i gyfrannu cymaint â phosibl at gyflawni’r genhadaeth. Byddwn yn argymell yr holl gyrff hynny sy’n gweithredu o fewn y Parc ac sy’n rhwym i a62(2) o Ddeddf yr Amgylchedd (1995) i gyflawni’r genhadaeth gan roi sylw dyledus i’n pwrpasau a’n dyletswyddau ni yn eu gweithgaredd nhw.
- Byddwn yn defnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i ymblannu syniadau Y Bannau y tu hwnt i’n ffiniau ni, gan greu meddylfryd o weithredu rhagorol a thrawsnewidiol.
Hinsawdd
Ein rôl yw dod â’r dystiolaeth a’r data ynghyd er mwyn i bob un ohonom ddeall yn well y modd y mae ein gweithredoedd, ein ffyrdd o fyw a’n hymddygiadau o fewn y Parc Cenedlaethol yn achosi newid yn yr hinsawdd. At hynny, gall bob un ohonom dargedu ein hymdrechion i leihau’r defnydd o danwydd ffosil, atafaelu carbon, neu fabwysiadu technolegau newydd drwy’r dulliau mwyaf effeithiol yn y lleoedd mwyaf effeithiol.
Ein rôl hefyd yw ysgogi gweithrediadau, gan ddod â sefydliadau partner, trigolion ac ymwelwyr at ei gilydd i adeiladu dyfodol carbon-isel a chynaliadwy yn y Parc Cenedlaethol.
Fel mudiad mae Bannau Brycheiniog yn ymrwymo i’r cyfraniadau canlynol tuag at genhadaeth yr Hinsawdd
Dŵr
Dŵr yw ffynhonnell bywyd – dyma yw ein hadnodd mwyaf gwerthfawr a’r mwyaf bregus.
Mae cymunedau Bannau Brycheiniog wedi rhyngweithio â’n systemau dŵr a’r “dirwedd las” drwy gydol hanes.
Mae pobl Cymru a thu hwnt yn dibynnu ar ein systemau dŵr ar gyfer eu hanghenion corfforol, meddyliol ac adloniadol – mae dŵr yn ein cysylltu
Ein rôl ni yw arwain ffocws newydd ar bwysigrwydd dŵr o fewn y Parc Cenedlaethol, er mwyn i’r dasg o ddiogelu, atgyweirio ac adfer ein systemau dŵr fod wrth galon pob dim a wnawn.
Fel mudiad mae Bannau Brycheiniog yn ymrwymo i’r cyfraniadau canlynol tuag at y genhadaeth ddŵr
Natur
Mae ein hamgylchedd naturiol yn ein cynnal yn gorfforol, yn feddyliol, yn ddiwylliannol ac yn ysbrydol.
Mae’r Bannau yn dirwedd fyw, yn frithwaith o gynefinoedd ac ecosystemau naturiol, lled-naturiol a rheoledig. Mae’n gartref i goetiroedd, mawndiroedd, rhostiroedd, porfa, dolydd a mwy.
Ein rôl yw defnyddio ein sgiliau a’n data i ddeall y cymhlethdod hwn, ac i ddefnyddio’r wybodaeth i weithio mewn partneriaeth â phawb sy’n rheoli neu’n berchen ar dir yn y Parc (gan gynnwys ni ein hunain) er mwyn diogelu, atgyweirio ac adfywio ein cynefinoedd, rhywogaethau ac ecosystemau allweddol.
Fel mudiad mae Bannau Brycheiniog yn ymrwymo i’r cyfraniadau canlynol tuag at y Genhadaeth Natur
Pobl
Ni all pobl na natur ffynnu heb ei gilydd – mae pob un ohonon ni’n rhan o dirwedd gymhleth y Parc Cenedlaethol..
Mae pobl wedi ffurfio tirwedd ac amgylchedd y Bannau ers miloedd o flynyddoedd ac yn ogystal â’i greu a’i warchod, mae weithiau wedi’i ddifrodi.
Ein rôl ni yw cysylltu neu ailgysylltu pobl â’r amgylchedd naturiol a gweithio mewn partneriaeth fel y gallwn adfer cydbwysedd o fewn y Parc rhwng natur ar yr un llaw a chymunedau a phobl iach a llewyrchus ar y llaw arall.
Fel mudiad mae Bannau Brycheiniog yn ymrwymo i’r cyfraniadau canlynol tuag at genhadaeth y Bobl
Lle
“Cartref yw lle mae’r galon” – mae gan bob un ohonom gysylltiad cryf â lleoedd ac mae pob man yn arbennig gyda chryfderau, adnoddau a nodweddion unigryw.
Rydyn ni’n cydnabod bod pob lle yn wahanol a thrwy ddeall y lle, gallwn gynorthwyo’r bobl yno i ffynnu ac i gefnogi eu hamgylchedd naturiol.
Ein rôl felly yw defnyddio’r data, y sgiliau a’r partneriaethau i gysylltu â phobl yn eu lleoedd a gweithio gyda nhw i gynllunio, gweithredu a pharatoi ar gyfer y dyfodol. Mae ein cyfraniad at y “genhadaeth lle” i’w gweld yn y pum maes allweddol canlynol:
Fel mudiad mae Bannau Brycheiniog yn ymrwymo i’r cyfraniadau canlynol tuag at genhadaeth Lle Bannau Brycheiniog commits to the following contributions towards the Place mission