Mae’r cymunedau sy’n rheoli’r dirwedd hon yn wynebu dyfodol ansicr
Mae newidiadau demograffig ac economaidd, ynghyd ag effeithiau’r argyfyngau hinsawdd a natur yn ei gwneud hi’n fwyfwy anodd i gynnal y ffyrdd traddodiadol o fyw sydd wedi cynnal yr amgylchedd hwn ers cenedlaethau. Ni fydd ein tirwedd hardd, sy’n sail i’n swyddogaethau, yn gallu goroesi’r newidiadau hyn oni wneir ymdrech ar y cyd heddiw er mwyn achub yfory.
Mae gwarchod y Parc Cenedlaethol hwn er budd cenedlaethau’r dyfodol yn rheidrwydd cenedlaethol ac yn sbardun allweddol i bolisïau a strategaethau’r Cynllun hwn. Mae ein tirwedd yn darparu ystod o wasanaethau ecosystem a buddiannau o’r byd naturiol, sy’n hanfodol i iechyd a llesiant. Mae ein bryniau, ein llynnoedd a’n nentydd yn cynhyrchu’r dŵr sy’n cyflenwi’r rhan fwyaf o Dde Cymru a thu hwnt. Mae ein mawndiroedd a’n coetiroedd yn atafaelu carbon a gynhyrchir yn y trefi a’r dinasoedd ymhell y tu hwnt i’n ffiniau, er mwyn helpu i liniaru’r cynnydd yn y tymheredd. Mae ein harddwch naturiol yn darparu’r buddion anfaterol hynny sy’n cyfoethogi ein bywydau bob dydd – yr ysbrydol, yr emosiynol, y myfyriol, y syfrdanol, a’r mwynhad syml a ddaw o fynd am dro ar y bryniau neu drwy’r coed.
Y Parc Heddiw
Mae’r ddwelwedd hon yn portreadu tirwedd sy’n nodweddiadol o’r Parc Cenedlaethol fel y’i gwelwn yn 2022.
- Mae’r ucheldiroedd moel a garw yn arwain at dirwedd fugeiliol lle gwelir da byw yn pori ar laswellt o fewn clytwaith o gaeau a amgylchynir gan wrychoedd taclus a thraddodiadol.
- Mae’r caeau âr yn datgelu’r pridd coch sydd mor nodweddiadol o’r ardal.
- Mae’r ychydig ffermdai a welir yn y ddelwedd yn dyst i’r ffaith fod pobl yn byw ac yn gweithio o fewn y dirwedd.
- Mae’r afon ar lawr y dyffryn yn ymdroelli ei ffordd drwy’r olygfa.
Mae hon yn ddarlun rhamantus o’r wlad sy’n nodweddu cymhlethdod y rhyngweithio rhwng pobl a natur ac sydd, yn ei dro, yn cyfuno i ffurfio darlun o harddwch naturiol. Ond er ei holl harddwch, nid yw hon yn dirwedd dyne