Monitro a chofnodi’r camau a weithredir gan yr holl bartneriaid
Nod Bannau’r Dyfodol yw ysgogi gweithredu ar draws y Parc Cenedlaethol a thu hwnt. Bydd y monitro a’r cofnodi yn cynnwys yr holl bartneriaid yn gweithredu gyda’i gilydd.
Monitro a chofnodi’r pum cenhadaeth, a Dangosyddion y Doesen
Mae’r pum cenhadaeth a fabwysiadwyd ym Mannau’r Dyfodol wedi’u dewis oherwydd dyma’r newidiadau mwyaf sydd eu hangen ar gyfer sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r Parc Cenedlaethol. Mae’n bwysig felly mesur a chofnodi’r cynnydd tuag at gyflawni’r cenadaethau a’r dangosyddion ehangach o gynaliadwyedd y Parc Cenedlaethol – y graddau y mae’r nenfwd ecolegol (Terfynau Planedol) a’r sylfaen gymdeithasol (Nodau Datblygu Cynaliadwy) yn cael eu torri.
Mae cyfres o ddangosyddion wedi’u dewis fel y metrigau gorau ar gyfer deall ac olrhain newid yn y Parc Cenedlaethol mewn perthynas ag Economeg Toesen:
- Nenfwd ecolegol (Terfynau Planedol)
Lawrlwytho fframwaith monitro: Nenfwd Ecolegol
- Sylfaen gymdeithasol (Nodau Datblygu Cynaliadwy), a’r
Lawrlwytho fframwaith monitro: sylfaen gymdeithasol
- “gofod diogel a chyfiawn” yng nghanol y cylch sy’n adlewyrchu llesiant ecolegol a dynol yng nghyd-destun unigryw Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Lawrlwytho fframwaith monitro: craidd parc cenedlaethol
Mae’r dangosyddion wedi’u dewis oherwydd eu bod yn cynrychioli’r metrig neu’r procsi uniongyrchol gorau, ac oherwydd y rhagwelir y bydd data ar gael i olrhain newid dros gyfnod hir. Nodwyd dangosyddion trwy sesiynau gweithdy manwl gyda chyfraniadau arbenigol gan swyddogion APCBB a Phanel Cyfeirio Rhanddeiliaid y Parc Cenedlaethol.
Amserlenni
Mae sawl amserlen wahanol yn bwysig wrth ystyried dyfodol cynaliadwy’r Parc Cenedlaethol.
Parhaus:
Diweddariadau ar wefan APCBB a llwyfannau eraill, a llwyfannau partneriaid, rhannu gwybodaeth am gamau gweithredu a deilliannau, dathlu llwyddiannau, ac amlygu cyfleoedd a heriau.
1 flwyddyn:
asesiad blynyddol gan Economeg Toesen o’r Parc Cenedlaethol (“yr archwiliad iechyd”), ac asesiad blynyddol o gynnydd o ran cyflawni’r cenadaethau.
4 blynedd:
Adroddiad Cyflwr y Parc 2027 – mae Adroddiad Cyflwr y Parc yn synthesis pwysig o’r holl ddata sy’n cael ei gasglu mewn perthynas â’r doesen. Mae’n foment bwysig i fyfyrio ar y materion allweddol sy’n wynebu’r Parc er mwyn llywio’r adolygiad o gynllun Y Bannau.
5 mlynedd:
Hyd cynllun rheoli Bannau’r Dyfodol. Fe’i defnyddir i ganolbwyntio ar weithio tuag at wireddu’r cenadaethau yn y tymor agos.
2030 a 2035:
Yr amserlenni ar gyfer cyflawni’r cenadaethau natur a dŵr a’r genhadaeth hinsawdd, yn y drefn honno.
25 years:
The medium-term vision for the National Park.
50 years:
Long-term change horizon. Used to track long-term sustainability as indicated by Doughnut Economics metrics.