Ymgynghori wedi’i dargedu â rhanddeiliaid allweddol i adolygu data Cyflwr y Parc, nodi materion a chytuno ar ddatblygu Cynllun Rheoli newydd
Cynllun Wedi’i Lunio Gan Ddeialog
Mae’r gofyniad cyfreithiol i gynhyrchu Cynllun Rheoli ar gyfer y Parc Cenedlaethol yn nwylo swyddogion y Parc Cenedlaethol. Bwriad y Cynllun yw ysgogi digonedd o sefydliadau ac unigolion allanol i weithredu, yn ogystal â staff ein corff ni. Mae deialog helaeth wedi bod yn ganolog i ddatblygu gweledigaeth gyfunol ar gyfer y dyfodol, a gobeithiwn y gall pawb weld eu rhan ynddi.
Pum Ffordd o Weithio
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn nodi pum ffordd o weithio sydd wedi llywio datblygiad Bannau’r Dyfodol, a bydd yn arwain Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i gataleiddio’r camau ymarferol sydd eu hangen arno i gyflawni’r cenadaethau.
Datblygu’r Cynllun Gyda’n Gilydd
Datblygwyd Bannau’r Dyfodol mewn deialog ag ystod eang o randdeiliaid gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau unedol, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, Cynghorau Cymuned, sefydliadau cymdeithas sifil gan gynnwys grwpiau ffermio a’r amgylchedd, dinasyddion, busnesau, academyddion, aelodau o Awdurdod y Parc Cenedlaethol, a swyddogion.
Bu’r ymgynghori helaeth yn gymorth i ddyfnhau a mireinio’r dadansoddiad o’r problemau a’r atebion wrth i’r Cynllun ddatblygu. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd yr amser i wneud cyfraniadau mor feddylgar.
Y Bannau: Map Ffordd Ymgynghori'r Dyfodol
Ymgynghoriad agored wyth wythnos yn mynd i’r afael â gweledigaeth ac amcanion newydd y Cynllun Rheoli. Cyflwyno opsiynau fel amrywiaeth o ddigwyddiadau rhanddeiliaid
Datblygu dau gorff allweddol ar gyfer datblygu cynlluniau – y Panel Cyfeirio Rhanddeiliaid sy’n cynnwys cyrff statudol, a’r Cynulliad Dinasyddion yn cynnwys dinasyddion hunan-etholedig. Mae’r ddau gorff yn cymryd rhan weithredol wrth ddatblygu’r cynllun.
Bannau’r Dyfodol. Ymgynghoriad deuddeg wythnos ar Gynllun Rheoli drafft Bannau’r Dyfodol Cyflwyno cynnwys i amrywiaeth o ddigwyddiadau rhanddeiliaid, a gofynnir am sylwadau ysgrifenedig
Cynhaliwyd 18 o weithdai ar-lein yn edrych ar ffurf a chynnwys amcanion polisi Y Bannau: Y Dyfodol. Gweithdai a fynychwyd gan amrywiaeth o gyfranogwyr o’r byd academaidd, cyrff statudol, dinasyddion ac eNGO’s
Yn canolbwyntio ar ail-weithio Y Bannau: Y Dyfodol gyda staff a gwirfoddolwyr o APCBB, nod y cyfranogiad oedd ystyried sut y gallai APC gyfrannu at gyflawni’r cenadaethau.
Ymgynghori pellach â’r Panel Cyfeirio Rhanddeiliaid ac amrywiaeth o arbenigwyr eraill cyn cwblhau’r broses