Adfer Mawndiroedd
Sam Ridge -Swyddog Prosiect Mawndiroedd
Mae’r holl waith adfer o fewn y Parc yn rhan o’r Strategaeth Adfer Mawndiroedd, sy’n ymateb i’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd dan adain Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hwn yn gynllun pum mlynedd ar gyfer adfer mawn yng Nghymru, gan wella gwytnwch ecosystemau’r mawndiroedd. Mae dros 200 hectar wedi cael eu hadfer yn y Parc dros y deng mlynedd diwethaf. At hynny, caiff ardaloedd ehangach elwa o gael eu targedu ar gyfer gwaith adfer.
Mae gwaith adfer yn cynnwys staff yr Awdurdod gan gynnwys ecolegwyr, archeolegwyr, arbenigwyr GIS a wardeiniaid. Mae gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser yn hael i helpu gydag elfennau ymarferol megis adfer a syrfeo. Mae’r gwaith yn dibynnu ar ganiatâd y tirfeddianwyr, cefnogaeth y porwyr a chaniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru os yw ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Cydnabyddir yn eang bellach ein bod mewn argyfwng hinsawdd. Mae adfer mawndiroedd yn helpu i liniaru effeithiau’r her honno, gan wella diogelwch y storfeydd carbon enfawr hyn.
Prosiect Adfer Mawndiroedd
Mae mawndiroedd yn ecosystemau unigryw ac yn ffurfio rhan bwysig o dirwedd ucheldir Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae amodau dwrlawn yn arwain at ddadelfennu planhigion a llystyfiant yn araf ac o ganlyniad, mae’n storio llawer iawn o garbon dros filoedd o flynyddoedd.
Amcangyfrifir bod 15,922 hectar o fawndir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae’r rhan fwyaf ohono mewn cyflwr anffafriol. Mae carbon yn cael ei ryddhau i’r atmosffer ac i’r cyrsiau dŵr oherwydd y sychu a’r erydu. Mae’r gwaith yr ydym yn ei wneud yn rhan o ymdrechion i warchod storfeydd carbon ledled y byd mewn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd.
Ar hyn o bryd, mae’r Awdurdod wedi canfod ardaloedd sy’n ddiraddiol, ac wedi sicrhau cyllid “aml-flwyddyn” o’r Gronfa Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy yn ogystal â’r Gronfa Dyrannu Strategol. Gyda chymorth Dŵr Cymru, rydym hefyd yn datblygu prosiectau adfer a all wella ansawdd dŵr yfed ym Mega-ddalgylch Bannau Brycheiniog.
Heriau Lluosog
Wrth i waith adfer gynyddu, cynyddu hefyd y mae’r angen am ddealltwriaeth fanwl o’n mawndiroedd. Mae gweithio ar y cyd yn elfen allweddol a cheir cefnogaeth gan nifer cynyddol o brifysgolion. Mae eu gwaith yn gwella gwybodaeth am yr elfennau allweddol gan gynnwys deall cyflwr a swyddogaeth y mawndir a’r modd y caiff carbon ei golli o fewn y Parc.
Mae tanau gwyllt afreolus ar gynnydd ar draws y byd. O fewn y Parc ei hun, mae tanau gwyllt a llosgi bwriadol yn bygwth ardaloedd sensitif a gwarchodedig gan gynnwys mawndiroedd. Mae mawndiroedd sy’n sychu mewn mwy o berygl o gael eu llosgi’n ddifrifol ac o ryddhau storfeydd enfawr o garbon. Nod y gwaith adfer yw ail-wlychu’r mawn, gan wella ei wytnwch yn erbyn tanau.
Ein Nod
yw creu mawndiroedd iach ar draws y Parc, a gweithredu fel dylanwad sefydlog a chadarnhaol wrth reoli carbon, adfer natur, rheoli tanau a diogelu ansawdd y dŵr o fewn ein hucheldiroedd. Wrth gyflawni ein nodau, byddwn yn cynyddu’r dasg o adfer y mawndiroedd er mwyn mynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu, gan weithio gyda thirfeddianwyr ac asiantaethau eraill i adfer yr holl fawndiroedd a ddiraddiwyd o fewn y Parc.
Y Bannau
Mae Y Bannau yn darparu “fframwaith ar gyfer dealltwriaeth” sy’n canolbwyntio ar elfennau allweddol y Parc a’r prosesau sy’n gysylltiedig â nhw. Mae cyflwr y mawndiroedd yn effeithio arnynt i gyd i ryw raddau. Rwy’i hefyd yn gadarnhaol ynghylch y cyfleoedd y mae dulliau gweithredu Y Bannau yn eu cynnig o ran gwella ein dealltwriaeth o swyddogaeth yr ecosystem ar raddfa tirwedd gan fod mawndiroedd yn chwarae rhan mor bwysig ynddynt.