Hwb y Gors
Emily Hinshelwood, Cyfarwyddwr Creadigol Awel Aman Tawe
Mae Awel Aman Tawe yn elusen gymunedol sy’n ymwneud ag ynni adnewyddadwy. Fe’i sefydlwyd ym 1998 er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chefnogi cymunedau cadarn.
Rydyn ni wedi sefydlu’r ddwy gydweithfa ynni adnewyddadwy fwyaf yng Nghymru: Cydweithfa Awel a Chydweithfa Egni. Mae’r rhain yn cynorthwyo ysgolion a sefydliadau i leihau eu hallyriadau carbon a dod yn fwy gwydn. Rydyn ni hefyd yn trosglwyddo cannoedd o filoedd o bunnoedd yn ôl i’r gymuned trwy brosiectau amgylcheddol ac addysg hinsawdd.
Y syniad y tu ôl i Hwb y Gors yw creu hwb cymunedol sy’n ymroddedig i adeiladu cymuned ddi- garbon. Credwn bod modd inni ffrwyno ein hallyriadau carbon trwy newidiadau sy’n hwyl, yn greadigol, yn iach ac yn fwy na dim, yn dod â’r gymuned ynghyd.
Rydyn ni am i’r Hwb gadw’r bwrlwm a’r clebran a fu yn y dyddiau pan oedd yn ysgol, ac rydyn ni am iddo fod yn ofod ar gyfer syniadau, creadigrwydd, twf a magwraeth. A dylid cyflawni hyn oll ag ôl troed carbon isel: system solar 90kW ar y to, cynllun gwresogi 50kW o’r ddaear, insiwleiddiad corc a rendrad calch traddodiadol.
Mae’r Hwb yn rhoi ffocws cryf ar y celfyddydau oherwydd credwn fod ganddynt – trwy waith byrfyfyr, chwarae a dychymyg – ran sylweddol i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Ac rydyn ni am adeiladu partneriaethau cadarnhaol â sefydliadau eraill sydd â’r un awydd i sicrhau dyfodol cadarnhaol, moesegol a chynaliadwy
Cymuned
Mae’r gymuned yn cymryd rhan weithredol mewn rhannau o’r gwaith adnewyddu; er enghraifft, rydyn ni wedi dadorchuddio 62 o ffenestri oedd wedi’u concritio. Rydyn ni’n gweithio gyda’r artist gwydr lliw Simon Howard-Morgan sy’n cynnal gweithdai gyda 62 o gyfranogwyr i greu paneli gwydr lliw newydd ar gyfer y ffenestri hyn. Rydyn ni hefyd wedi gweithio gyda dros 150 o bobl i greu cwilt treftadaeth ar gyfer y caffi sy’n delweddu’r ysgol a hanes yr ardal.
I fod yn llwyddiant, bydd Hwb y Gors yn hwb ffyniannus i’r gymuned leol a thu hwnt. Rydyn ni am i’n cymuned fod yn esiampl i’r byd o’r modd y gallwn ni droi i fod yn ddi-garbon yn ogystal â gwella ein llesiant, ein gwytnwch a’n rhagolygon hirdymor.
Bydd Hwb y Gors yn cynnal caffi trwsio, llyfrgell o bethau, cynllun trafnidiaeth gymunedol yn ogystal â chynnal rhaglen eang o weithdai sy’n helpu pobl i weithredu ar yr hinsawdd ym mhob rhan o’u bywydau.
Our Action
Rydyn ni hefyd am adeiladu partneriaethau â chymunedau a sefydliadau y tu hwnt i’r ardal leol. Fe wyddom fod mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn golygu bod yn rhaid inni weithio gyda’n gilydd, rhannu adnoddau, a gwneud cysylltiadau. Rydyn ni eisiau rhannu ein gwybodaeth a dysgu gan eraill.
Rydyn ni’n agos at Y Bannau ac yn rhagweld y bydd digon o botensial ar gyfer gweithio ochr yn ochr â’r Parc Cenedlaethol – yn enwedig gydag ein rhaglen Natur Bositif sy’n anelu at greu gardd adferol, gynaliadwy a bwytadwy ar faes chwarae Hwb y Gors.
I ni, mae rhaglen Y Bannau yn cynnig gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer newid. Mae’n credu yn y posibiliadau a ddaw wrth gefnogi pobl i gymryd y camau cywir ac wrth ddychmygu dyfodol y mae arnom ei eisiau a’i angen.