Pan ddatganodd yr Arlywydd Kennedy ei uchelgais i anfon pobl i’r lleuad a dod â nhw’n ôl yn ddiogel, creodd, mewn un cam diamwys ac ysbrydoledig, y sbardun i fwrw ymlaen â’r prosiect.
Yn sgil y datganiad hwnnw, dechreuodd llu o bobl, o arbenigwyr i ddinasyddion, gydweithio mewn ffyrdd nas gwelwyd o’r blaen er mwyn cyflawni un amcan canolog, a hynny ar fyrder. Roedd y gweithgaredd yn golygu gweithio ar gannoedd o brosiectau, cymryd risgiau, symud ymlaen trwy brofi a methu llawer o weithiau ar hyd y ffordd, cyn cyrraedd y lan yn y pen draw (Mazzacato 2021).
Drigain mlynedd ers lansio Prosiect Apollo, mae’r heriau y mae angen i’r Cynllun hwn fynd i’r afael â nhw – sef newid hinsawdd, adfer byd natur, gwella ansawdd dŵr, creu twristiaeth gynaliadwy a ffyniant economaidd i’n trigolion, i enwi dim ond rhai – yn broblemau cymhleth a dychrynllyd sy’n debyg i’r ymdrech a wnaed i lanio ar y lleuad yn yr ystyr eu bod yn gofyn am y gorau o’n hegni a’n sgiliau.
Am y rheswm hwnnw, mae Y Bannau yn cymryd agwedd genhadol tuag at reoli’r Parc. Byddwn yn gosod nodau beiddgar i weithredu ar ein problemau mwyaf enbyd ac yn eu cyflawni trwy gydweithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Bydd angen i sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol, dinasyddion, swyddogion cyflogedig y cyrff cyhoeddus ac amaethwyr, i gyd ddod at ei gilydd i gyflawni trawsnewidiad beiddgar er lles y cenedlaethau i ddyfod.
Teulu’r Genhadaeth
Mae ein dull cenhadol yn cynnwys pum maes cenhadaeth allweddol sy’n gydgysylltiedig. Cyfeiriwn atynt fel ein teulu cenhadol gan eu bod i gyd yn gydgysylltiedig, yn gyd-ddibynnol yn rhyngberthynol.
Mae’r meysydd pwnc hyn yn seiliedig ar ein dealltwriaeth o Doesen y Parc Cenedlaethol (gweler uchod) ac yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol hynny lle mae’r Parc Cenedlaethol yn torri’r terfynau sy’n ymwneud â gweithredu’n ddiogel (gweler yr adran ar Broblemau). Dyma’r meysydd lle’r ydym yn beryglus o agos at sefyllfaoedd diffwysol a di-droi’n-ôl. Rhaid gweithredu ar y rhain fel mater o frys. Mae’r ddealltwriaeth hon o’r dystiolaeth yn gofyn am weithredu ar y cyd yn y meysydd canlynol: –
- Hinsawdd
- Dŵr
- Natur
Ac, i gydnabod y toriadau sylweddol ar draws bron y cyfan o’n sylfaen gymdeithasol a Chraidd y Parc Cenedlaethol, rydym wedi nodi meysydd cenhadaeth mwy cyffredinol sy’n canolbwyntio ar:-:-
- Pobl (ymwelwyr, preswylwyr, a pherchnogion busnes)
- Lle (yr ardal ddaearyddol lle gellir teimlo effeithiau)
Mae gan bob cenhadaeth ei phennod ei hun yn y cynllun hwn. Mae’r penodau hyn yn egluro’r genhadaeth ac yn darparu rhesymeg gyd-destunol ehangach ar gyfer ffocws y genhadaeth. Wrth greu penodau sy’n seiliedig ar genhadaeth, rydyn ni’n cydnabod ein bod yn creu ffiniau ffug rhwng y meysydd cenhadaeth.
Er y gwyddom fod gwahaniadau o’r fath yn ffug; yn anffodus, dyma’r ffordd gliriaf y gallwn ddod o hyd iddi i gyfathrebu ein gweledigaeth. Rydyn ni am gydnabod yma fod llwyddiant ymhob maes cenhadaeth yn dibynnu ar systemau rhyngweithio cymhleth rhwng y meysydd cenhadaeth. Er mwyn deall y ffordd y mae ein gweithredoedd yn effeithio ar yr ystod lawn o’n cenadaethau, byddwn yn dychwelyd at ein model toesen i ddarparu dealltwriaeth gyfannol.
Mae’r datganiadau cenhadaeth hyn yn ffurfio ein Hamcanion Llesiant ar gyfer y cyfnod 2023-2028 ac yn dangos y modd y bydd ardal ddaearyddol y Parc yn cyfrannu at gyflawni’r 7 nod llesiant drwy’r 5 ffordd o weithio.
Dull cydweithredol a beiddgar
Er y gall ein Cenhadaeth ymddangos yn hynod uchelgeisiol, rydym yn gwybod, trwy ymrwymo ein hadnoddau a gweithio gyda’n partneriaid, y bydd y newid angenrheidiol yn gallu digwydd ac yn digwydd.
Meddyliwch am bob un o’n cenadaethau fel adeiladu tŵr o flociau. I adeiladu’ch tŵr, mae angen llawer o flociau i ddod at ei gilydd er mwyn creu’r strwythur terfynol, sef y tŵr ei hun. Mae pob bloc yn cael ei osod yn ei dro ac yn adeiladu ar sylfaen y blociau oddi tanynt. Yn ein tŵr cenhadaeth, mae pob bloc yn cynrychioli prosiect, cynllun neu weithgaredd, ac wrth eu cyfuno maent yn gweithio gyda’i gilydd i greu’r newid sydd ei angen.
Gwaith Y Bannau yw diffinio’r paramedrau ar gyfer y gweithgareddau nesaf hyn, ac nid i ragnodi’r union ffurf y dylent fod. Yn unol â’n gwerthoedd o gyfranogi a chydweithio, ein partneriaid fydd yn penderfynu’r ffordd y byddant yn gweithio gyda ni a’r cyfraniad y byddant yn ei wneud. Yn y tudalennau canlynol, fe welwch astudiaethau achos o weithgareddau sy’n sail i’r tyrau cenhadol hyn, a elwir yn “Sêr y Bannau” a manylion y partneriaethau y byddwn yn gweithio gyda nhw i helpu i gyflawni cenhadaeth Y Bannau.
Rôl Gyflawni’r Parc Cenedlaethol
Er mwyn dangos ein hymrwymiad i’r dull cenhadol, rydyn ni, fel sefydliad, yn nodi’r hyn y credwn yw ein rôl wrth helpu i gyflawni’r cenadaethau. Dyma’r cyfraniadau mwyaf y credwn y gallwn eu gwneud i gyflawni’r cenadaethau.
Yn ogystal â’n dull cenhadol, credwn fod gennym fel sefydliad rôl ganolog a ddiffiniwn fel ein cyfraniad trosfwaol i genhadaeth y bannau. Mae hyn yn diffinio gweithgareddau’r dyfodol sy’n rhychwantu ein holl genadaethau a byddant yn diffinio patrwm cyffredinol ar gyfer gweithgareddau’r sefydliad cyfan.