Sylfaen Gymdeithasol Bannau Brycheiniog 2022
Mae’r sylfaen gymdeithasol yn dangos y cydrannau allweddol sy’n rhan o elfennau ein dyletswyddau statudol.
Ar gyfer pob elfen, rydym wedi diffinio lleoliad ein ffin ar gyfer llesiant economaidd-gymdeithasol. Dangosir y rhain fel “nodau” ar y diagram isod. Rydym hefyd wedi canfod dangosyddion allweddol sy’n rhoi ciplun inni o le’r ydym ni Yna, byddwn yn defnyddio’r dangosyddion hyn i frasamcanu pa mor bell yr ydyn ni o gyrraedd y nodau dan sylw – dyma’r lletemau coch sy’n disgyn i’r twll yng nghanol y doesen, o dan y sylfaen ar gyfer llesiant.
Ein Cymunedau
Mae effeithiau nifer o’r materion hyn wedi dwysáu yn sgil pandemig COVID-19.
Mae newid demograffig yn fater allweddol arall sy’n effeithio ar ein cymunedau. Dros y degawdau diwethaf, rydym wedi colli pobl ifanc o’r ardal. Mae’r rhesymau y tu ôl i hyn yn gymhleth – mae’n ymwneud yn rhannol ag atyniad goleuadau llachar y ddinas, ond mae hefyd yn ymwneud â diffyg cyfleoedd gwaith o ansawdd da yn y Parc Cenedlaethol, a phrisiau tai uchel. Mae colli pobl ifanc yn golygu bod ein poblogaeth breswyl yn mynd yn hŷn, ac mae poblogrwydd yr ardal ymhlith pobl sy’n symud yma ar ôl ymddeol yn gwneud y sefyllfa’n waeth. Mae pobl nad ydynt bellach yn gaeth i siwrnai ddyddiol i’r gwaith yn awyddus i dreulio’u hymddeoliad yng nghefn gwlad. Mae hyn yn arwain at brisiau tai uwch, a cholli gwasanaethau a chyfleusterau, megis ysgolion, o’n cymunedau.
Mae hyn yn rhoi pwysau sylweddol ar ein pentrefi i ymdopi â thwf pellach, a darparu tai fforddiadwy ar gyfer pobl ifanc, tra bod y stoc dai bresennol yn wag am eu bod yn gartrefi gwyliau ac ail gartrefi – sydd yn ei dro’n creu “pentrefi noswylio”.
Angen Tai Fforddiadwy 2007-2022
Amodau byw a gweithio yn y Parc Cenedlaethol
Gwelir bod ffyniant economaidd, fel y’i mynegir trwy ddangosyddion allweddol y farchnad lafur, yn mynd yn llai llewyrchus wrth ichi fynd o’r gogledd i’r de o fewn ardal yr Awdurdod. Mae lefelau incwm cyfartalog uwch i’w gweld yn ardaloedd gwledig amaethyddol y Parc Cenedlaethol nag yn aneddiadau mwy trefol y meysydd glo (segur erbyn hyn) yng Nghymoedd De Cymru, ar ffin ddeheuol y Parc. Gwelir y gwahaniaeth hwn rhwng yr ardaloedd hefyd yn y lefelau cyflogaeth, addysg, a’r mesurau amddifadedd lluosog, sydd oll yn gwaethygu wrth fynd o’r Gogledd i’r De.
Mae economïau ledled y byd wedi’u dinistrio gan effeithiau’r coronafeirws a’r newid mewn ymddygiad a ddaeth yn ei sgil. Mae natur economi’r Parc Cenedlaethol yn golygu ein bod ninnau hefyd yn teimlo’r effaith yn arw o fewn sectorau megis manwerthu a thwristiaeth. Yn ogystal â’r ansicrwydd economaidd sydd ynghlwm wrth argyfwng y coronafeirws, rhagwelir effeithiau ychwanegol parhaus yn sgil Brexit, a’r drefn o ran cymorthdaliadau amaethyddol yn y dyfodol sef y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Rhagwelir y bydd hyn yn effeithio ar y sector amaeth yn bennaf, ond mi fydd hefyd yn effeithio ar yr holl sectorau sy’n dibynnu ar fewnforio neu allforio nwyddau a gwasanaethau i Ewrop, gan gynnwys twristiaeth.