Rhwng y nenfwd ecolegol a’r sylfaen gymdeithasol, ceir man cyfiawn a diogel. O fewn fersiwn y Parc Cenedlaethol o’r doesen, dyma’r gofod y byddem am gynnal gweithgareddau ein hail bwrpas.
Mewn geiriau eraill, dylai’r cyfleoedd i ddeall a mwynhau’r Parc Cenedlaethol ddigwydd mewn modd sydd ddim yn achosi inni dorri ein nenfwd ecolegol neu wthio ein trigolion o dan y sylfaen gymdeithasol. Ar gyfer pob elfen, rydym wedi diffinio lleoliad y ffin ddeuol hon. Dangosir y rhain fel “nodau” ar y diagram isod.
Rydym hefyd wedi canfod dangosyddion allweddol sy’n rhoi ciplun inni o ble rydym ni ac wedi’u gosod yn y blychau coch yn erbyn ein nodau. Yna byddwn yn defnyddio’r dangosyddion hyn i frasamcanu pa mor bell yr ydym o gyrraedd y nodau dan sylw – dyma’r lletemau coch sy’n ymestyn y tu hwnt i’r cylch llwyd. Mae’r lletemau sy’n gorsaethu yn dangos bod y ffactorau hyn yn cael effaith anghynaliadwy ar yr amgylchedd. Mae’r lletemau sy’n dangos diffyg yn effeithio ar gynaliadwyedd y gymuned.
Craidd Y Parc Cendelaethol
Roedd y cynllunwyr a ddynododd y Parciau Cenedlaethol yn eu gweld fel mannau a fyddai’n rhoi cyfleoedd i bob aelod o gymdeithas gael mynediadam ddim i gefn gwlad – eu hymadrodd ar gyfer hyn oedd “hamdden awyr agored”.
Roedd hon yn elfen allweddol o’r diwygiad cymdeithasol a ddaeth i’r brig ar ôl erchylltra’r Ail Ryfel Byd, ac fe’i hystyriwyd yn hollbwysig i adferiad cymdeithasol ac economaidd y genedl, ochr yn ochr â chreu’r wladwriaeth les, y GIG a gwyliau â thâl.
Mae’r ffordd y mae pobl yn cael mynediad i gefn gwlad ac yn ei ddefnyddio wedi’i drawsnewid yn llwyr o’r weledigaeth a grëwyd yn sgil y rhyfel. Nid yn unig y mae poblogaeth y DU wedi cynyddu’n sylweddol – mae tua 13 miliwn yn fwy o bobl yn y DU nag ym 1949 – ond mae perchnogaeth ceir wedi cynyddu’n esbonyddol. Ym 1950, roedd 4 miliwn o geir ar y ffordd – heddiw, mae’r ffigur hwnnw wedi cynyddu i dros 38 miliwn. Mae’r twf cyfun hwn mewn pobl a’r defnydd o geir preifat wedi cael effaith fawr ar y Parc Cenedlaethol a’n gallu i reoli pwysau ymwelwyr. Mae twristiaeth yn denu ymwelwyr i aros am gyfnod neu i daro heibio am ddiwrnod yn unig, ac mae’n un o elfennau mwyaf arwyddocaol yr economi leol. Yn wir, mae gwariant ymwelwyr ar y cyfan wedi cynyddu cymaint â 45% oddi ar 2007. Daw ymwelwyr i’r Parc Cenedlaethol am lu o resymau, ond yn y bôn, maent yn dod am ei fod yn ennyn teimladau o lesiant sydd o fudd i’w hiechyd emosiynol a’u hapusrwydd. Nid y bobl yw’r broblem ond eu dull o gyrraedd y lle.
Fe ddechreuon ni ddatblygu’r cynllun hwn yn 2020, a oedd ymhell iawn o fod yn flwyddyn arferol. Am y tro cyntaf ers degawd, fe gaewyd rhannau helaeth o’r Parc Cenedlaethol a gwnaed mynediad cyhoeddus yn anghyfreithlon. Daeth “ymwelwch yn ddiweddarach” yn arwyddair i’r Parc Cenedlaethol yn ystod y cyfnod clo yn 2020.
Pwysau Ymwelwyr
Yn ystod y cyfnod clo, roedd y daith gerdded leol yn gysur i lawer bob dydd.
Daeth y cyfle newydd i dreulio amser hamdden yn yr awyr agored yn gyfystyr ag iachâd, yn debyg i weledigaeth y Parciau Cenedlaethol a amlinellwyd gan Dower a Hobhouse yn ôl yn y 1940au. Cadarnhawyd hynny pan laciodd y cyfyngiadau wrth i nifer yr ymwelwyr ddychwelyd i lefelau nas gwelwyd o’r blaen.
Mae llawer o ymwelwyr yn ymgynnull mewn lleoliadau arbennig ac eiconig, e.e. y Storey Arms yn y Bannau Canolog a Bro’r Sgydau ym Mhontneddfechan. Yn aml, mae hyn yn golygu ein bod yn gweld ymwelwyr yn ymgasglu mewn niferoedd y tu hwnt i gapasiti’r ardal i’w cynnal. Mae’n arwain at ystod o effeithiau sydd nid yn unig yn niweidiol i brofiad yr ymwelydd ond hefyd yn cael effeithiau andwyol di-ri ar y cymunedau lleol sy’n teimlo eu bod wedi’u llethu gan anferthedd eu presenoldeb.
Materion sy’n codi pan fo pwysau ymwelwyr yn drech na chapasiti’r ardal:-
- Allyriadau trafnidiaeth
- Tagfeydd ffyrdd a phroblemau parcio
- Cynnydd mewn tai haf ac ail gartrefi
- Gweithgareddau hamdden amhriodol
- Llygredd sŵn
- Erydiad yr ucheldir
- Effeithiau ar gynefinoedd sensitif ac aflonyddwch bywyd gwyllt