Ein cyfraniad NI at wireddu’r genhadaeth

Mae’r canlynol yn diffinio ymrwymiad ein sefydliad i ymgymryd â gweithgareddau trosfwaol a fydd yn cyfrannu at wireddu ein cenadaethau
  1. Byddwn yn defnyddio ein pwerau i ddod â phobl a sefydliadau allweddol ynghyd i ffurfio partneriaethau sy’n canolbwyntio ar gyflawniad, fel y gallant rannu gwybodaeth ac arbenigedd, a defnyddio adnoddau mewn modd cydgysylltiedig ac effeithlon. Mae’r ddogfen hon yn diffinio partneriaethau sydd eisoes yn bodoli ac yn gweithredu er budd y Parc Cenedlaethol, a byddwn yn parhau i’w cefnogi.
  2. Byddwn yn ehangu cyrhaeddiad ac ehangder ein partneriaeth yn y maes ymchwil academaidd, gan anelu at ddefnyddio arbenigedd yn y maes hwnnw i fynd i’r afael â phroblemau go iawn y Parc Cenedlaethol. Mae’r bartneriaeth yn y broses o greu grwpiau astudio craidd ar gyfer meysydd pwnc allweddol, megis mawn, ffosffadau a threftadaeth, ac a fydd o gymorth i gyflawni’r cenadaethau. Gall penodau cenhadaeth unigol ganfod meysydd eraill lle mae angen ymchwil pellach i gefnogi cyflawniad.
  3. Byddwn yn gwreiddio egwyddorion, gwerthoedd a chenhadaeth Y Bannau yn holl waith y sefydliad gan gynnwys ein strwythurau penderfynu a ffyrdd o weithio, ein rheolaeth ariannol, ein cyfathrebiadau cyhoeddus a’n heiriolaeth, a’r modd y byddwn yn datblygu pob cynllun a pholisi pellach y gofynnir i’r Parc Cenedlaethol ei gynhyrchu yn ôl statud neu anghenraid.
  4. Byddwn yn defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael, yn awr ac yn y dyfodol, i gyfrannu cymaint â phosibl at gyflawni’r genhadaeth. Byddwn yn argymell yr holl gyrff hynny sy’n gweithredu o fewn y Parc ac sy’n rhwym i a62(2) o Ddeddf yr Amgylchedd (1995) i gyflawni’r genhadaeth gan roi sylw dyledus i’n pwrpasau a’n dyletswyddau ni yn eu gweithgaredd nhw.
  5. Byddwn yn defnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i ymblannu syniadau Y Bannau y tu hwnt i’n ffiniau ni, gan greu meddylfryd o weithredu rhagorol a thrawsnewidiol.

Sêr Y Bannau: Ysbrydoli Eraill I Weithredu

Mae’r Bannau yn canolbwyntio’n fwriadol ar fynegi amcanion a deilliannau. Nid yw’n canolbwyntio ar “sut” y mae cyflawni. Mae hyn oherwydd ein bod yn credu mai rôl y sefydliad yw pennu’r weledigaeth ar gyfer dyfodol yr ardal, nid pennu’r modd i’w chyflawni.

Rydym am weithio gyda’n partneriaid allweddol i ddatblygu cynlluniau gweithredu gyda llwybrau manwl sy’n arwain at lwyddiant y genhadaeth. Wrth greu’r cynlluniau hyn ar y cyd, gall pob sefydliad neu gorff cyhoeddus sydd â chyfrifoldeb i’r Parc berchen a chytuno ar gamau i gyflawni’r genhadaeth a gynigir ganddynt.

Er mwyn amlygu’r math o weithredu y tybiwn a fydd o gymorth i gyflawni cenhadaeth, rydym wedi nodi prosiectau sy’n bodoli eisoes yn y gobaith y byddant yn ysgogi syniadau yn y rhai sy’n cynllunio’r camau gweithredu, ac yn egluro’r math o bethau sy’n rhan o’r blociau adeiladu.

Mae’r astudiaethau achos hyn wedi’u hysgrifennu gan arweinwyr y prosiect a’u henwi yn “Sêr y Bannau”. Mae rhai o’r enghreifftiau hyn yn amlygu gwaith cyfredol y sefydliad; mae eraill yn gwbl annibynnol ac yn dangos potensial y gweithredoedd ysbrydoledig a gyflawnwyd gan eraill.

Rôl Gyflawni’r Parc Cenedlaethol

Er mwyn dangos ein hymrwymiad i’r dull Cenhadol, rydyn ni, fel sefydliad, yn nodi’r hyn y credwn yw ein rôl wrth helpu i gyflawni’r cenadaethau. Dyma’r cyfraniadau mwyaf y credwn y gallwn eu gwneud i gyflawni’r cenadaethau.

Yn ogystal â’n dull cenhadol, credwn fod gennym fel sefydliad rôl ganolog a ddiffiniwn fel ein cyfraniad trosfwaol i genhadaeth y Bannau. Mae hyn yn diffinio gweithgareddau’r dyfodol sy’n rhychwantu ein holl genadaethau a byddant yn diffinio patrwm cyffredinol ar gyfer gweithgareddau’r sefydliad cyfan.