Cynaliadwyedd – diffiniad
Mae’r termau cynaliadwy a chynaliadwyedd yn cael eu defnyddio dro ar ôl tro yn y cynllun hwn. I fod yn glir, mae ein defnydd o’r termau hyn yn dilyn diffiniad Brundtland o gynaliadwyedd a ddisgrifiwyd ym 1987 fel “diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau”.
Yng Nghymru, mae cynaliadwyedd wedi’i ddiffinio ymhellach gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) sy’n gosod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus i lynu wrth yr Egwyddor Datblygu Cynaliadwy.
Mae’r broses yn ymwneud â gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru trwy gymryd camau sy’n cydymffurfio â’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Felly, rhaid darllen unrhyw ddatganiad a wneir yn y cynllun hwn sy’n cyfeirio at weithred, nod, deilliant neu amcan “cynaliadwy”, fel datganiad sy’n gofyn am gamau gweithredu i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, nid yn unig yn awr ond ar gyfer y cenedlaethau i ddyfod.
Asesiad o effaith bosibl ar y Rhwydwaith Safleoedd Cenedlaethol
Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i gynlluniau neu brosiectau haen is sy’n deillio o weithredu’r Cynllun hwn, ac a allai effeithio ar safle Ewropeaidd, gael Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) fel y nodir o dan Reoliadau Cynefinoedd 2017 (fel y’i diwygiwyd). Nid yw’r cynllun rheoli hwn yn cefnogi unrhyw gynlluniau na phrosiectau haen is os na ellir diystyru effeithiau andwyol ar integredd y safle.